Cyngor Celfyddydau Cymru | Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd

Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd

Dechrau chwiliad newydd

I Ychwanegu proffil, digwyddiad neu gyfle...

Mewngofnodi / Cofrestru
Yn lle ydych wedi'ch lleoli?
Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd
Uned Celfyddydau Cymunedol
d/o Archifdy Caernarfon,
Swyddfa'r Sir, Stryd y Jel, Caernarfon
LL55 1SH
Gwynedd
Manylion cyswllt
Gwawr Wyn Roberts
01286 679721
gwawrr@gwynedd.gov.uk
www.gwynedd.gov.uk
Cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Teithio a Chyflwyno: Noson Allan - Cynllun Teithio Cymunedol
Creu Cymunedau Cyfoes
Partneriaeth Fuddsoddi gyda'r Awdurdodau Lleol

Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal rhaglen o gynlluniau a gweithgareddau creadigol i bobl o bob oed, cefndir a gallu. Dyma fanylion am rai o’n cynlluniau:

Criw Celf:
Cynllun ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n ymddiddori mewn celf a chrefft yw Criw Celf. Mae gweithdai a dosbarthiadau meistri yn cael eu cynnal yn rheolaidd yng nghwmni artistiaid proffesiynol. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar gael ar www.criwcelf.co.uk


Oriel Ysbyty Gwynedd:
Mae gwaith celf amrywiol yn cael ei arddangos yn Oriel Ysbyty Gwynedd, Bangor er mwyn cyfrannu’n bositif tuag at ymweliad cleifio a’r ysbyty. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd arddangos a gwerthu cynnyrch i artistiaid lleol.

Therapi Celf:
Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal grŵp therapi celf cymunedol i oedolion sydd ag anhwylderau iechyd meddwl. Mae therapi celf yn cynnig cyfle i gyfranogwyr fynegi eu hunain gan ddefnyddio delweddau mewn awyrgylch ddiogel wedi ei hwyluso.

Arteffact:
Mae Arteffact yn gynllun sy’n cynnig profiadau creadigol mewn amgueddfeydd, orielau ac archifau i bobl sydd ag iselder, straen neu orbryder lefel isel i ganolig. Mae cyfranogwyr yn mynychu cyfres o sesiynau creadigol yng nghwmni artistiaid cymunedol er mwyn adeiladu hyder a dysgu sgiliau newydd yng nghwmni pobl sydd a phrofiadau tebyg.

Noson Allan:
Cynllun sy’n cefnogi cymunedau Gwynedd i lwyfannu cynhyrchiadau proffesiynol. Manylion llawn ar gael yma: www.nosonallan.org.uk

Helfa Gelf:
Digwyddiad stiwdios agored blynyddol ble mae cyfle i’r cyhoedd gwrdd ag artistiaid wrth eu gwaith. Mwy o wybodaeth ar gael yma: www.helfagelf.co.uk

Gwynedd Greadigol:
Grŵp gwirfoddol wedi ei gefnogi a’i hwyluso gan Gyngor Gwynedd i hyrwyddo’r celfyddydau yw Gwynedd Greadigol www.gwyneddgreadigol.com

Digwyddiadau

RSS Ni ddarganfuwyd digwyddiad sy'n cyfateb i'ch chwiliad

Swyddi a chyfleoedd

RSS Ni ddarganfuwyd swydd neu gyfle sy'n cyfateb i'ch chwiliad

Prosiectau rhyngwladol

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245